Gwesty Murmur Y Mor

  • en_GBEnglish

Gwesty Murmur Y Mor

Croeso i dudalen yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Gwesty MurMur Y Môr.

Pwrpas y wefan hon yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi. Mae copi o’r holl ddogfennau ar y wefan hon ar gael yn y llyfrgell leol ym Mhwllheli.

Crynodeb o’r Cynnig Diwygiedig

Yn dilyn y cynnig blaenorol a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2023, sydd nawr wedi'i dynnu yn ôl (cais C23/0089/39/AM), ac mewn ymateb i sylwadau gan y Cyngor Cymuned/Tref Leol, yr Ymgyngoreion Statudol a’r Swyddog Cynllunio; mae’r cynnig diwygiedig hwn fel a ganlyn:-

Disgrifiad Diwygiedig:- Dymchwel yr annedd breswyl bresennol a’r garej fasnachol ynghyd â'r holl adeiladau ategol cysylltiedig, adeiladu tafarndy un llawr a gwesty dau lawr gyda 25 gwely, creu mannau parcio ar gyfer defnydd ar y cyd â Neuadd y Pentref/Neuadd Mynytho, a gwelliannau i'r fynedfa bresennol i gerbydau.

Nawr wedi’i hepgor o’r cynnig blaenorol:-

  • Cafodd yr 16 Llety Gwyliau hunanwasanaeth ar y maes glas y tu ôl i'r safle ei hepgor o’r cynnig
  • Cafodd y 5 Tŷ Marchnad Lleol dau lawr ar y maes ei hepgor o’r cynnig.

Yn gryno, pwrpas y cais diwygiedig hwn yw ailddatblygu’r safle preswyl a masnachol presennol a chreu datblygiad defnydd cymysg newydd sy’n cynnwys:-

  • tafarndy un llawr,
  • gwesty dau lawr gyda 25 gwely,
  • maes parcio ar gyfer defnydd ar y cyd â Neuadd y Pentref/Neuadd Mynytho.

Bydd y cynnig hefyd yn cynnwys:-

  • mynediad i gerbydau wedi'i uwchraddio i'r safle presennol,
  • mannau ar gyfer beiciau i’r cyhoedd a’r staff,
  • seilwaith gwyrdd a phalmentydd hydraidd i leihau’r effeithiau amgylcheddol,
  • mannau ar gyfer gwefru ceir trydan,
  • gostyngiad mewn graddfa, ffurf/patrwm ac wedi’i ail-ddylunio i leihau'r màs,
  • dyluniad llai ymwthiol a dwys i leihau effaith y datblygiad,
  • cadw’r toriad gwledig rhwng yr adeiladau a Neuadd y Pentref heb gyfuno’r datblygiad a chadw’r gwahanu gweledol,
  • defnyddio deunyddiau lleol,
  • llai o arwynebedd ffyrdd/tarmac,
  • system ddraenio gynaliadwy ar gyfer dŵr wyneb,
  • draeniau dŵr budr sy'n arllwys naill ai i system garthffosiaeth y prif gyflenwad neu i drin carthion preifat,
  • manteision cymdeithasol ac economaidd,
  • pob adeilad newydd sydd o fewn ffin bresennol yr annedd bresennol a’r garej fasnachol, ar Dir a Ddatblygwyd o’r Blaen/Safle Tir Llwyd.

Cais amlinellol yw hwn gyda rhai materion wedi’u cadw’n ôl ac ni cheisir caniatâd ar gyfer edrychiad, tirweddu, cynllun a graddfa. Bydd manylion pellach yn amodol ar y cais arferol am faterion a gedwir yn ôl ar gyfer datrys unrhyw amodau yn cael eu cyflwyno os bydd y cais amlinellol diwygiedig hwn yn llwyddiannus.

  • Darparwyd cynlluniau sy’n dangos y cynnig, ynghyd â’r uchder lleiaf a’r uchder uchaf.
  • Mae’r safle’n cynnwys oddeutu 0.16h (16,716 metr sgwâr) o Dir a Ddatblygwyd O’r Blaen/Safle Tir Llwyd, sy'n cynnwys annedd breswyl bresennol, adeiladau masnachol, gwahanol fynedfeydd sy’n bodoli eisoes ac ardaloedd o arwyneb solet.
  • Mae’r datblygiad ar y maes glas sydd wedi’i leoli i’r gogledd wedi cael ei hepgor.
  • Mae’r safle y tu allan i ddynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
  • Mae’r safle y tu allan i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Foel Gron a Thir Comin Mynytho.

Datganiad Ystyriaethau Polisi Cynllunio

Polisi ISA 2: Cyfleusterau Cymunedol (Tafarndy a maes parcio ar gyfer defnydd ar y cyd)

Mae’r cynnig diwygiedig hwn ar gyfer tafarndy a maes parcio newydd a fydd hefyd yn cael ei rannu â Neuadd y Pentref. Bydd hyn yn helpu i gynnal a gwella’r cyfleuster cymunedol presennol hwn.

Mae’r cyfleusterau newydd arfaethedig hyn:-

  • yn ffinio â'r ffin ddatblygu,
  • wedi eu lleoli y tu allan i ffiniau datblygu o fewn clwstwr,
  • yn darparu cyfleuster hanfodol i gefnogi’r gymuned leol,
  • o raddfa a math priodol o gymharu â maint, cymeriad a swyddogaeth yr anheddiad,
  • yn hawdd eu cyrraedd ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus,
  • yn newydd ac yn aml ddefnydd,
  • mewn lleoliad hygyrch ar ffordd brysur.

Polisi TWR 2: Llety Gwyliau (Gwesty)

Mae’r cynnig diwygiedig hwn hefyd ar gyfer llety gwyliau parhaol newydd, sydd;

  • o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun ac ymddangosiad,
  • yn defnyddio safle addas a ddatblygwyd o'r blaen;
  • yn briodol o ran graddfa gan ystyried y safle, y lleoliad a’r anheddiad,
  • ddim yn arwain at golli stoc dai barhaol,
  • ddim wedi'i leoli mewn ardal breswyl yn bennaf,
  • ddim yn arwain at ormod o lety o'r math hwnnw yn yr ardal.

Cliciwch ar y dolenni isod ar gyfer y canlynol:

  1. Pecyn wedi’i ddiweddaru o luniadau diwygiedig
  2. Hysbysiad Safle 1
  3. Hysbysiad Safle 2

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad at initiativesdesign@gmail.com neu drwy’r post at:

Initiative Design, 48 High Street, Weaverham, Northwich, Cheshire CW8 3HB

Copyright © 2025 · Gwesty Murmur Y Mor